Newyddion
< back to news

Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP)

Mae’r rhaglen hon wedi cael ei rhedeg ar gyfer teuluoedd yn y Fro ers 3 blynedd. Mae’r rhaglen yn cynnig brecwast, cinio, gweithgareddau chwaraeon, addysg ac amser cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Yr arwyddion cynnar o’r arolygon a gynhaliwyd yw bod y cynnig hwn yn helpu teuluoedd yn ystod cyfnodau anodd yn ystod gwyliau hir yr haf gyda dau bryd o fwyd y dydd a gofal plant.  Mae hyn yn arbennig o anodd i rieni sy’n gweithio’n llawn amser ac nad oes ganddynt fynediad i warchod plant yn ystod y cyfnod hir hwn.

Mae athrawon hefyd wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn y disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi, maent yn ymddangos yn fwy hyderus ac mae ganddynt lawer o straeon newyddion da i’w rhannu gyda’u dosbarth.