Mae eleni wedi bod yn her ym mhob agwedd ar addysg, hyd yn oed y sector arlwyo prydau ysgol. Nid ydym wedi gadael i hyn ein hatal rhag gwneud yr hyn a wnawn orau fel tîm yma yn The Big Fresh Catering Company.
Pan gaeodd yr holl ysgolion yn ôl ym mis Mawrth, sefydlwyd ysgolion canolfan ledled Bro Morgannwg i helpu gweithwyr allweddol allu parhau i weithio drwy’r pandemig. Cawsom y dasg o fwydo’r disgyblion hyn adeg brecwast, cinio a byrbryd ar ddiwedd y dydd. Gweithiodd ein staff yn ddiflino drwy gydol y cyfnod hwn gan helpu a bwydo disgyblion ar draws Bro Morgannwg. Roedd hyn hefyd yn ymestyn i fwydo’r staff adeiladu yn yr ysgolion uwchradd newydd yn y Barri. Ni allem fod yn fwy balch o’r ymdrechion a ddangosodd ein staff.
Llwyddom i roi rhan fwyaf ein staff ar Ffyrlo rhwng mis Mawrth a mis Medi, a bu rhai aelodau o staff yn cario’r faner i Big Fresh, yn helpu lle’r oedd ein hangen. Agorodd llwybr newydd i ni dros yr haf ar ffurf Byrddau Te Prynhawn, Byrddau Pori a Bocys Cacennau a ddaeth yn boblogaidd iawn. Sefydlwyd cyfrif Facebook ac o fewn hanner awr cymerom ni ein harcheb gyntaf. O’r pwynt hwn, deuai’r archebion i mewn rif y gwlith, ac roedden ninnau ’n ymateb yn gyflym iddynt ac yn mwynhau rhoi ein danteithion blasus i’n cwsmeriaid newydd. Roedd yn wych gallu helpu i roi gwên ar wynebau pobl mewn cyfnod mor heriol. Nid yw’r gwasanaeth newydd hwn wedi dod i ben, rydyn ni’n dal i weithio’n galed yn datblygu syniadau newydd i wella ein platiau er mwyn rhoi’r profiad Big Fresh i’n cwsmeriaid.
Pan agorodd yr ysgolion ym mis Medi, gwyddem y byddai ton newydd o heriau yn codi! Rydyn ni’n gweithio’n agos â’n hysgolion i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid yn y ffordd fwyaf diogel posibl, boed hynny yn fag bachu neu’n ddanfon cinio poeth i ystafell ddosbarth yr ysgol. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael cymorth yn ein hymagwedd at sicrhau diogelwch ac yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r disgyblion a’r staff addysgu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydyn ni’n falch o’r perthnasoedd da gyda’n hysgolion, sydd wedi disgleirio’n amlwg wrth i ni ddarparu ar gyfer ein plant.
Cafodd pob disgybl sy’n cael prydau ysgol am ddim a fu’n hunanynysu fwyd ar garreg eu drws gan dîm Big Fresh rhwng dechrau mis Medi a hanner tymor mis Hydref. Mae talebau bwyd (y gellir eu defnyddio ar gyfer siopa ar-lein a danfon) bellach ar waith ar gyfer y teuluoedd hyn wrth iddynt aros gartref a dilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae ein syniadau’n dal i lifo yn The Big Fresh ac mae gennym gogyddion hynod dalentog (uchod mae Tracey Smart ‘Rheolwr Cegin’ a Natalie Jones ‘Rheolwr Cegin Symudol’) ymhlith staff cegin ein hysgol sy’n trosglwyddo eu sgiliau pobi i greu cacennau bach, cacennau mewn tun hir a bisgedi ar gyfer achlysuron thema arbennig. Yn ddiweddar, fe wnaethom y cacennau Calan Gaeaf blasus yma a chacennau tun hir a fu’n boblogaidd iawn. Rydyn ni bob amser yn chwilio am y syniad difyr nesaf ac mae’r tîm bellach yn gweithio’n galed i berffeithio ein danteithion Nadolig a fydd ar gael yn fuan iawn. Beth am chwilio amdanom ar Facebook a gweld popeth sydd gennym i’w gynnig, neu ewch i’n gwefan www.bigfreshcatering.co.uk. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan.