Mae ysgolion VALE Morgannwg wedi dechrau elwa o fodel busnes arloesol y Big Fresh Catering Company wrth i ffigurau ar gyfer rhandaliad cyntaf ei gynllun rhannu elw gael eu cyhoeddi.
Gan weithredu fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, mae’r Big Fresh Catering Company wedi bod yn ehangu ac yn gwella gweithrediadau, i ysgolion ac ar draws y sector lletygarwch ehangach.
Mae hyn wedi helpu i gynhyrchu ffrydiau refeniw newydd i gefnogi ysgolion ar draws y Sir.
Yn ddiweddar, agorodd caffi newydd ym Mhafiliwn Pier Penarth yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a’u cymysgau coffi brand eu hunain, wedi’u paratoi gan faristas hyfforddedig, a bwydlen ffres yn cynnwys cynhwysion lleol.
Mae gan y fenter bolisi dim plastig untro, sy’n cefnogi menter Prosiect Diwastraff y Cyngor, sy’n ceisio mynd i’r afael â mater newid yn yr hinsawdd.
Un o nodweddion mwyaf diddorol y fenter yw’r fenter gymdeithasol a’r elfen nid-er-elw-preifat sydd wrth wraidd ethos y busnes.
Nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni’n gyflogedig ac nid yw’r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian oddi wrth y cwmni, gyda’r holl elw naill ai’n cael ei roi i ysgolion lleol neu wedi’i ailfuddsoddi yn y busnes.
Mae ysgolion yn defnyddio’r arian hwnnw i wella eu darpariaeth prydau bwyd ac i ategu dysgu ac addysgu. Bydd rhywfaint hefyd yn cael eu buddsoddi mewn cymunedau a’u defnyddio i brynu eitemau fel pecyn pêl-droed, gan helpu i hyrwyddo ffordd iach o fyw.
Mae mentrau newydd fel y caffi yn y pier wedi cynnig cyfleoedd secondiad i staff presennol prydau ysgol ddatblygu eu sgiliau a chreu swyddi newydd ar adeg pan oedd llawer yn cael trafferth i gael gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: “Mae hwn yn gynllun gwirioneddol arloesol, sef y cyntaf o’i fath a weithredir gan Awdurdod Lleol, hyd y gwyddom. Mae hinsawdd ariannol heriol yn galw am arloesi wrth i ni geisio ail-lunio’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gall dull creadigol wella’r canlyniadau rydym wedi ymrwymo iddynt ac ar yr un pryd hybu effeithlonrwydd a gwella’n sylweddol y ffordd rydym yn gweithredu.
“Mae pob cwsmer sy’n ymweld â’r Caffi Big Fresh, yn archebu platiad pori ar-lein neu’n prynu cinio ysgol yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn ysgolion, gan ganiatáu iddynt gynnig mwy i ddisgyblion ar ffurf gwell prydau ysgol a buddion eraill.”
Dywedodd Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr y Big Fresh Catering Company: “Rwyf wrth fy modd y bydd mwy na £500,000 eleni yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion, grwpiau cymunedol ac yn mynd tuag at gefnogi gweithrediadau masnachol. “Bydd arian yn cyrraedd ysgolion mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy grant uniongyrchol, cronfa a rennir i ddarparu rhaglenni cymorth y tu allan i’r ysgol a thrwy fuddsoddi mewn cynhwysion, eitemau bwydlen a thechnolegau newydd i adlewyrchu anghenion a cheisiadau ein cwsmeriaid a’n hysgolion Big Fresh.”
Lansiodd y Big Fresh Catering Company dudalen Facebook yn ddiweddar ac ers mis Awst mae wedi bod yn dosbarthu platiau pori, te prynhawn a chinio’r arddwr o amgylch y Fro.
Mae yna hefyd flychau cacennau tymhorol a danteithion ar gael ar gyfer digwyddiadau fel Calan Gaeaf, y Nadolig, Sul y Mamau a’r Pasg.