Cyflenwyr yr ydym yn gweithio gyda nhw
Castell Howell
Cyflenwr nwyddau sych, oer a chigydd
“Mae Castell Howel foods yn falch o gael perthynas waith sydd wedi’i hen sefydlu dros y 6 blynedd diwethaf gyda’r tîm arlwyo. Fel cyflenwr yng Nghymru, teimlwn ei bod yn bwysig gallu cyflenwi cynnyrch lleol, lle y bo’n bosibl, ac mewn modd cynaliadwy; ethos sydd, yn ein barn ni, yn cael ei rannu gyda’r tîm yn The Big Fresh Catering Company. Rydym yn falch o weithio gyda a chefnogi tîm arloesol a gweithgar sy’n ymroddedig i ddarparu prydau ysgol o ansawdd rhagorol er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer pobl y dyfodol heddiw.”
Bishops & Sons
Cyflenwr holl ffrwythau a llysiau ffres
“Rydym yn falch iawn i gyflenwi The Big Fresh Catering Company gyda ffrwythau, llysiau a salad ffres yn ogystal â chynnyrch ffres parod. Rydym wedi bod yn gyflenwr ers 12 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi canfod bod pob aelod o’u staff yn effeithiol o ran archebu yn ogystal â bod yn gyfeillgar i ddelio â nhw.
“Mae’n bleser delio â’r tîm yn The Big Fresh Catering Company.”
Dairy Link
Cyflenwr holl laeth ffres Cymreig i ysgolion
“Mae DairyLink yn falch iawn o weithio gyda, a chyflenwi The Big Fresh Catering Company i ddarparu llaeth Cymreig i ddisgyblion y Fro. Mae’r berthynas ag arlwyo wedi cronni dros lawer o flynyddoedd o gyflenwi llaeth a gweithio gydag ethos cynaliadwy o leihau ac ailgylchu mewn ffordd effeithlon.”
Argies
Cyflenwr diodydd poeth ac oer i ysgolion
“Rydym ni yn yr Argies wedi bod yn darparu peiriannau, cynnyrch a gwasanaeth i The Big Fresh Catering Company ers dros 15 mlynedd. Rydym yn adnabod yr holl staff yn dda iawn ac mae gennym berthynas waith wych, hir oes i hyn barhau.”