Sbotolau Cyflenwyr
Castell Howell Foods
Mae Castell Howell Foods yn darparu’r holl nwyddau sych, oer a chigydd i’n hysgolion yn y Fro ar gyfer coginio ‘o’r newydd’ yn ein ceginau. Mae ein cig yn ffres ac wedi’i goginio ar ddiwrnod ei weini. Mae ein hwyau yn rhai ‘buarth’ ac maent yn cael eu defnyddio yn ein pwdinau ffres. Mae Castell Howell Foods yn darparu cynhyrchion o Gymru lle bynnag y gallant.